Mae’r awydd am annibyniaeth ar fin berwi yn rhengoedd y mudiad cenedlaethol ar hyn o bryd os yw’r cyfryngau cymdeithasol i’w credu. Mae Trydar ar dân gyda datganiadau beunyddiol am ‘Indy Wales now!’ ac mae aelodaeth Yes Cymru’n tyfu yn esbonyddol bob wythnos. Mae rhai yn meddwl, mae’n debyg, mai ‘un rhuthr arall’ yn unig sydd ei angen cyn i Gymru fach daflu ei rhwymau ymaith, troi’n genedl-wladwriaeth annibynnol, a chymryd ei lle ymysg cenhedloedd rhyddion eraill y byd.
Rhaid i fi gyfaddef fy mod yn teimlo’r awydd hwnnw o bryd i’w gilydd hefyd. Rwyf am weld Cymru’n rhydd cyn gynted â phosibl. Rwyf yn credu mai cenedl-wladwriaeth ar wahân yw statws cyfansoddiadol gorau a mwyaf naturiol i’m gwlad. Rwyf yn credu bydd ffyniant economaidd, diwylliannol a chymdeithasol yn dilyn annibyniaeth wleidyddol. Ie, rwyf yn genedlaetholwr Cymreig i’r carn ac yn falch ohoni. Ond mae’n rhaid i fi gyfaddef hefyd, ysywaeth, nad wyf yn credu bod annibyniaeth mor agos ag y mae rhai o’m hannwyl gymrodyr yn ei feddwl.
Fel yr ysgrifennais mewn post arall yn ddiweddar, mae gelynion annibyniaeth yn lluosog ac yn bwerus. Mae ganddynt adnoddau helaeth a holl aparatws y wladwriaeth Brydeinig wrth eu cefn. Maent yn barod i ymladd yn frwnt ac yn ddidostur, ac maent yn barod i frwydro am ddegawdau os bydd angen. Peidied neb â thanamcangyfrif y gorchwyl sy’n ein hwynebu. Peidied neb â thanamcangyfrif yr amser y bydd ei angen i wireddu’r weledigaeth. Peidied neb â thanamcangyfrif yr aberth y bydd rhaid inni ei wneud o hyd.
Nid wyf yn dweud y pethau hyn i beri digalondid i’m cyd-ymgyrchwyr, na llai byth i’w hannog i roi’r ffidil yn y to. Yn bendant ni ddymunaf ddibrisio na diystyru llwyddiannau diweddar Yes Cymru, ac ni hoffwn awgrymu am eiliad fod eu strategaeth a’u blaenoriaethau yn annoeth neu’n anghywir. Na, dim byd o’r fath; mae Siôn a’r tîm wedi dangos arweinyddiaeth gall, graff ac effeithiol iawn dros y ddwy neu dair blynedd ddiwethaf. Rwyf yn eu cefnogi gant y cant.
Yr hyn yr wyf am ei ddweud ar hyn o bryd wrth fy mrodyr a chwiorydd yn y mudiad cenedlaethol yw cadwch y sefyllfa bresennol mewn persbectif, peidiwch â digalonni gormod pan ddaw’r siom anochel gyntaf, peidiwch â chael eich gwyro’n rhy aml gan ddireidi a drygioni’r gwrthwynebwyr, a pheidiwch â blino gormod yn y cyfnod mor gynhyrfus a chyffrous hwn. Fel yn achos Napoleon ym mrwydr Waterloo, mae ’na demtasiwn, wrth weld gwendid cynyddol Wellington ac wrth synhwyro buddugoliaeth ysgubol, i ruthro’n wyllt dros fryn dall gyda dafn olaf eich egni, ond i weld Blücher yn cyrraedd ar y gorwel â’i filoedd o filwyr ffres.
Cadwch yn ffit a bocsio’n glyfar, gyfeillion. Mae ’na sawl pennod o’r hen chwedl hon i’w hadrodd o hyd.